Maniffesto - Argraffiad 2020

Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn ddylunwyr a gawsom ein magu mewn byd lle rhoesom elw o flaen pobl a'r blaned er mwyn hwyluso a chynnal cyfalafiaeth. Mae ein hamser a'n hegni yn cael eu defnyddio fwyfwy i greu galw, i ecsbloetio poblogaethau, i echdynnu adnoddau, i lenwi safleoedd tirlenwi, i lygru'r aer, i hyrwyddo gwladychu, ac i lywio chweched difodiant mawr ein planed. Rydym wedi helpu i greu bywydau cyffyrddus, hapus i rai o'n rhywogaethau ac wedi caniatáu niwed i eraill; mae ein dyluniadau, ar brydiau, wedi bod yn gyfrwng i eithrio, dileu a gwahaniaethu.


Mae nifer o athrawon a gweithwyr proffesiynol ym maes dylunio yn hyrwyddo'r ideoleg hon; mae'r marchnadoedd yn ei wobrwyo; mae llu o ddynwarediadau a negeseuon “hoffi” yn ei atgyfnerthu. Gan fod dylunwyr yn cael eu cymell i'r cyfeiriad hwn, maent yn cymhwyso'u sgiliau a'u dychymyg i werthu ffasiynau cyflym, ceir cyflym a bwyd cyflym; cwpanau tafladwy, deunydd lapio swigod, a llifeiriant diderfyn o blastigau untro; teganau troelli, ciniawau microdon, a thocwyr blew trwyn. Rydym yn marchnata delweddau corff a diet afiach; cynhyrchion ac apiau sy'n cynyddu arwahaniad cymdeithasol ac iselder; systemau bwyd anghytbwys; rydym yn gwerthu pils i'w llyncu, ‘tiks’ i’w tocian, a ffrwd ddiderfyn o rwtsh... ac yn cymell yr awydd i'w ddefnyddio dro ar ôl tro ar ôl tro. Ydy, mae gwaith masnachol wedi talu'r biliau erioed, ond mae llawer o ddylunwyr wedi caniatáu iddo droi i fod, i raddau helaeth iawn, yn unig swyddogaeth dylunio. A dyma, yn ei dro, sut mae’r byd yn dirnad dylunio.

Mae llawer ohonom wedi tyfu'n fwyfwy anghyfforddus â'r weledigaeth hon o ddylunio. Yn sgil hynny, rydym yn galw am weddnewidiad yn yr hyn y mae dylunwyr yn ei ddylunio a sut y maent yn ei ddylunio. Mae newid hinsawdd wedi'i gydblethu'n annatod â goruchafiaeth sy’n seiliedig ar ddosbarth, hil a rhywedd, ac nid yw’n ddigon erbyn hyn i weithio dros gynaliadwyedd yn unig, mae’n rhaid i ni greu systemau newydd i ddadwneud yr hyn sydd wedi'i wneud ac i arwain at iachâd.

Yr Hyn sydd Angen i Ni ei Wneud

  • Rhaid i ni herio ac archwilio hanes, prosesau a moeseg dylunio a datblygu sgiliau creadigol ac adnoddau newydd, dulliau newydd o gydweithredu ac ieithoedd dylunio newydd.

  • Rhaid i ni gefnogi ymdrechion cymunedol dros sicrhau cyfiawnder, iachâd, cydfodolaeth a pharch i’n gilydd.

  • Rhaid i ni ddeall nad ydym yn bodoli y tu allan i natur; rydym yn rhan o system gymhleth a rhaid i'n gweithredoedd dystio i'r wybodaeth honno.

  • Rhaid i ni drawsnewid blaenoriaethau ein proffesiwn o blaid dulliau gweithredu mwy cynhwysol, empathetig ac ymgysylltiedig – newid mewn meddylfryd a fydd yn mynd y tu hwnt i gynaliadwyedd - tuag at adfywio, archwilio a chyd-greu set o gysylltiadau amgylcheddol-gymdeithasol an-ymelwol ac an-feddiannol.

  • Rhaid i ni ymrwymo i ailgysylltu dylunio, gweithgynhyrchu, dosbarthu, a'r defnydd o'r pethau rydym yn eu dylunio â'r Ddaear - a'i thrigolion oll.

  • Rhaid i ni gyfeirio ein sgiliau er budd y ddynoliaeth tuag at wareiddiad mwy ecolegol.

    Credwn fod angen integreiddio'r holl egwyddorion hyn ag addysgeg dylunio amlddisgyblaethol.

    Nid ydym yn argymell culhau dylunio i ffocws unigol: nid yw hynny'n ymarferol. Nid ydym ychwaith eisiau cael gwared ar yr hwyl o’n bywydau. Ond rydym yn cynnig trawsnewid ein blaenoriaethau o blaid dulliau mwy defnyddiol, cynhyrchiol a theg o ddylunio.

    Yn 1964, llofnododd 22 cyfathrebwr gweledol, hen ac ifanc, yr alwad wreiddiol i ailgyfeirio ein sgiliau at bwrpas gwerth chweil. Yn 2000, llofnododd 33 o ddylunwyr fersiwn ddiwygiedig o'r alwad wreiddiol, ac yn 2014 - ar hanner canmlwyddiant y maniffesto - adnewyddodd dros 1600 o ddylunwyr ar draws y byd eu hymrwymiad i'r Maniffesto Pethau Pwysig yn Gyntaf. Yn sgil dinistr parhaus systemau byw hanfodol ar ein planed, mae'r neges hon wedi tyfu i fod yn fater brys. Wrth i ni ddathlu hanner canmlwyddiant Diwrnod y Ddaear, rydym yn adnewyddu'r maniffestos blaenorol gyda mwy o ymdeimlad o frys a ninnau’n gweld effeithiau cyfansawdd ein hargyfwng hinsawdd yn datblygu o'n blaenau. Mae'n hanfodol bwysig ein bod yn gweithredu i drawsnewid yr argyfwng hinsawdd ar unwaith.

Ymunwch ag eraill i weithredu